Lywio tua’r Dyfodol: Gweminarau Rheoliadau Gwastraff

Cofleidiwch y newidiadau deddfwriaethol yng Nghymru a fydd yn mandadu i bob gweithle, yn cynnwys busnesau, cyrff cyhoeddus, a’r trydydd sector, wahanu deunyddiau ailgylchadwy oddi wrth wastraff cyffredinol.

Rhwng Ionawr a Chwefror 2024, fe wnaethom gynnal rhaglen o weminarau ar gyfer gwahanol sectorau.

Cliciwch ar y dolenni isod i wylio'r recordiadau o'r digwyddiadau hyn.

Mae’r mewnwelediadau gwerthfawr gan siaradwyr gwadd yn rhannu eu profiadau o roi casgliadau ar wahân ar waith ar eu safleoedd hwy yn cynnig arweiniad ymarferol.

Busnesau bach a chanolig (SME)

  • Dyddiad: 6ed Chwef 10yb

  • Siaradwr: Owain Griffiths - CRS & Consortiwm Manwerthu Cymru

  • Pwy a gynhwysir yn y sector hwn: Busnesau manwerthu o bob maint sy’n gweithredu o siopau ffisegol, ynghyd â’r rhai sy’n gweithredu ar-lein.

Cyfleusterau adloniant a hamdden

(yn cynnwys gwersylloedd, chalets, cabanau, gwestai, carafanau)

  • Dyddiad: 31ain Ion 10yb

  • Siaradwr: Bluestone, Marten Lewis & Consortiwm Manwerthu Cymru

  • Pwy a gynhwysir yn y sector hwn: Llety gwyliau, parciau/cyrchfannau gwyliau, gwersylloedd, meysydd carafanau, llety gwely a brecwast, a gwestai. Mae hefyd yn cynnwys canolfannau cymunedol a neuaddau pentref, lleoliadau adloniant a chwaraeon (yn cynnwys canolfannau hamdden), meysydd a stadia chwaraeon, caeau sioe, adeiladau treftadaeth, llyfrgelloedd, ac amgueddfeydd.

Manwerthu

Lleoliadau preswyl

(yn cynnwys cartrefi gofal)

Lletygarwch a gwasanaethau bwyd

  • Dyddiad: 7fed Chwef 10yb

  • Siaradwyr: Keenan Food Waste Collection Service & Consortiwm Manwerthu Cymru

  • Pwy a gynhwysir yn y sector hwn: Gwestai, bwytai, caffis, tecawês, ffreuturau, tafarndai, swyddfeydd sydd â ffreuturau neu gaffis, ysgolion a cholegau, carchardai, cartrefi nyrsio ac ysbytai ac unrhyw weithleoedd eraill sy’n gweini bwyd.

Casglwyr gwastraff

  • Dyddiad: 7fed Chwef 2yh

  • Siaradwr: Simon Rutledge - WESA & Biffa & Consortiwm Manwerthu Cymru

  • Pwy a gynhwysir yn y sector hwn: Casglwyr gwastraff sy’n gweithredu naill ai gydol y flwyddyn neu’n dymhorol, boed hwy’n rhan o’r sector preifat, y sector cyhoeddus, neu’r trydydd sector.

Digwyddiadau awyr agored

  • Dyddiad: 8fed Chwef 2yh

  • Siaradwr: Andy Fryers, Hay Festival & Consortiwm Manwerthu Cymru

  • Pwy a gynhwysir yn y sector hwn: Digwyddiadau, ffeiriau, cyngherddau, marchnadoedd, a gwyliau yng Nghymru a allai fod yn gweithredu ar sail ddielw neu fasnachol.   Mae’n berthnasol i ddigwyddiadau untro neu dros dro bach a gynhelir dros gyfnod o oriau yn ogystal ag i ddigwyddiadau mwy a gynhelir dros gyfnod o sawl diwrnod, p’un a’i fod yn cynnwys darpariaeth gwersylla ai peidio.Mae’r gyfraith yn berthnasol p’un a’i cynhelir y digwyddiad neu ŵyl mewn man agored cyhoeddus fel parc, marchnad, priffyrdd (pan fo caniatâd i gau’r ffordd wedi’i sicrhau) neu ar dir preifat.

Lleoliadau addysg a Phrifysgolion

  • Dyddiad: 20ed Chwef 10yb

  • Siaradwr: Meirion Edwards, Cyngor Sir Ynys Mon, Georgina Taubman, Prifysgol Caerdydd & Gareth Davies, Consortiwm Manwerthu Cymru

  • Pwy a gynhwysir yn y sector hwn: Yr holl leoliadau addysg yng Nghymru yn cynnwys ysgolion gwladol a rhai preifat, ynghyd â sefydliadau addysg bellach ac uwch fel colegau a phrifysgolion.

Yn ôl i Adnoddau