Canllawiau ar gyfer
HOLL WEITHLEOEDD

Beth yw’r gyfraith newydd?

Bydd angen i weithleoedd wahanu’r deunyddiau a restrir isod ar gyfer eu hailgylchu. Bydd angen hefyd i weithleoedd drefnu i’r gwastraff gael ei gasglu ar wahân i wastraff arall.

  • Papur a cherdyn;

  • Gwydr;

  • Metel, plastig, a chartonau a deunyddiau eraill tebyg (er enghraifft, cwpanau coffi);

  • Bwyd – dim ond ar gyfer mannau sy’n creu mwy na 5kg yr wythnos o wastraff bwyd;

  • Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff (sWEEE) bach heb eu gwerthu; a

  • Tecstilau heb eu gwerthu.

Ni chaniateir rhoi eich holl wastraff mewn un bin os bydd unrhyw rai o’r deunyddiau hyn ynddo.

Rhaid cadw pob grŵp deunyddiau ar wahân i’w gilydd. Er enghraifft, rhaid casglu gwydr ar ei ben ei hun, ond caiff gweithleoedd gasglu metel, plastig a chartonau gyda’i gilydd mewn un cynhwysydd. Cyn rhoi eitemau yn y biniau ailgylchu, ystyriwch a allech eu hailddefnyddio at ddiben gwahanol.

Gwaharddiadau ar sut i gael gwared ar fwyd a gwastraff

Mae’r gyfraith newydd hefyd yn cynnwys gwaharddiadau ar:

  • anfon gwastraff bwyd i garthffosydd (unrhyw swm);

  • unrhyw wastraff sydd wedi’i wahanu i’w ailgylchu rhag mynd i dirlenwi neu i gyfleusterau llosgi (heblaw'r rhan fwyaf o decstilau, sy’n cael mynd i gyfleusterau llosgi, heblaw am decstilau heb eu gwerthu, nad ydynt yn cael mynd i losgi na thirlenwi); ac

  • anfon unrhyw wastraff bwyd i dirlenwi.

Ar gyfer gweithleoedd sy’n creu ac yn trin gwastraff bwyd

Mae’r gyfraith i wahanu ac ailgylchu gwastraff bwyd yn berthnasol i unrhyw eiddo sy’n creu mwy na 5kg o wastraff bwyd fesul wythnos, fel:

  • gwestai

  • bwytai

  • caffis

  • tecawês

  • busnesau arlwyo (yn cynnwys y rhai mewn digwyddiadau fel stondinau bwyd)

  • neuaddau bwyta mewn canolfannau siopa

  • ffreuturau

  • tafarndai

  • swyddfeydd gyda ffreuturau, caffis, neu gyfleusterau cegin i’w staff

  • ysgolion, colegau, carchardai, cartrefi nyrsio ac ysbytai

  • unrhyw weithleoedd eraill sy’n gweini bwyd

Os ydych chi’n creu unrhyw wastraff bwyd, ni fyddwch yn cael ei roi i lawr y sinc, na’i arllwys i ddraen neu garthffos gyhoeddus.

Mae hyn yn cynnwys defnyddio mwydwyr (neu dechnolegau cyffelyb fel treulwyr ensymau neu ddulliau tynnu dŵr) i gael gwared ar wastraff bwyd lawr y sinc i ddraen neu garthffos. Nid oes angen tynnu mwydwyr, ond gallech ddewis eu tynnu i atal staff rhag eu defnyddio.

Adnoddau

  • Astudiaethau Achos

    Dysgwch sut mae nifer o wahanol sectorau wedi rhoi’r Gyfraith Ailgylchu yn y Gweithle ar waith yn eu safleoedd.

    5 files
  • Pecyn Adnoddau

    Mae’r pecyn hwn yn cynnwys yr holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch i ddefnyddio Adnoddau Y Busnes o Ailgylchu Cymru.

    PDF - 1MB
    Lawrlwytho
  • Delweddau ar gyfer arwyddion a chynwysyddion ailgylchu

    Isod, gallwch lawrlwytho’r holl eiconau ffrwd deunydd dwyieithog y gallai fod eu hangen arnoch i greu sticeri ar gyfer eich cynwysyddion ailgylchu a gwastraff na ellir eu hailgylchu (bagiau, biniau, bocsys neu gadis), ac i’w defnyddio ar arwyddion, i’ch helpu i roi gwybod i’ch cwsmeriaid am beth sy’n mynd ble.

  • Canllaw Archwiliad Gwastraff

    Canllaw cam wrth gam i ymgymryd ag archwiliad gwastraff.

    PDF - 230KB
    Lawrlwytho
  • Canllaw ar gyfer manteisio i’r eithaf ar eich casgliad ailgylchu

    Canllawiau ar faint o ailgylchu a gwastraff sy’n dueddol o gael ei greu gan wahanol fusnesau i’ch helpu chi ddeall anghenion cynwysyddion ailgylchu a gwastraff eich gweithle.

  • Food waste reduction roadmap toolkit

    Yn helpu busnesau bwyd gymryd camau wedi'u targedu i leihau gwastraff bwyd yn eu gweithrediadau eu hunain, yn eu cadwyn gyfleni a gan ddefnyddwyr. (Sylwch: mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.)

  • Guardians of grub

    Gwybodaeth ar sut i reoli eich gwastraff bwyd a allai helpu eich gweithle.

Dewis sector arall