Addysg Adnoddau
Ysgolion:
Lansiodd Cymru yn Ailgylchu ymgyrch ailgylchu mewn ysgolion ym mis Medi 2023 ac mae’n cynnig amrywiaeth o wybodaeth, cyngor ac adnoddau i fachu diddordeb disgyblion a rhoi ailgylchu ar waith.
Mae EcoSgolion yn rhaglen fyd-eang a gaiff ei darparu yng Nghymru gan Cadw Cymru’n Daclus. Cynlluniwyd y rhaglen i annog ac ysbrydoli pobl ifanc i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol i gymuned eu hysgol.
Mae Let’s Go Zero yn ymgyrch newid hinsawdd ar gyfer y DU gyfan i helpu ysgolion fod yn ddi-garbon erbyn 2030. Mae’r ymgyrch yn darparu gwybodaeth, adnoddau, astudiaethau achos a gweminarau i gefnogi ysgolion.
Prifysgolion:
Mae cefnogaeth ar gyfer sefydliadau addysg uwch a phellach ar gael gan yr EAUC (Environmental Association for Universities & Colleges). Maent yn darparu amrywiaeth o adnoddau a gwybodaeth yn arbennig ar gyfer y sector addysg ôl-16.
Gwasanaeth Bwyd:
Mae gwaharddiad ar Blastigion Untro yn cynnwys cyllyll a ffyrc plastig, ffyn troi diodydd, nwyddau polystyren a gwellt yfed.
Guardians of Grub – adnoddau ar gyfer y sector bwyd a lletygarwch i helpu lleihau gwastraff bwyd.
Ar gyfer help a chefnogaeth i fusnesau bwyd, yn cynnwys lleoliadau addysg, i gymryd camau wedi’u targedu i weithredu ar leihau gwastraff yn eu gweithrediadau eu hunain, eu cadwyn gyflenwi a chan ddefnyddwyr, mae’r Pecyn adnoddau map llwybr lleihau gwastraff bwyd yn cynnig camau ymarferol. I weld beth mae eraill wedi’i gyflawni o ddilyn y pecyn adnoddau lleihau gwastraff bwyd gweler Astudiaethau achos lletygarwch a gwasanaethau bwyd.
I gael arweiniad ar roi’r gyfraith newydd ar waith mewn lleoliadau gwasanaeth bwyd yn eich ysgolion, colegau a phrifysgolion, gweler hefyd ein Canllaw ar gyfer y Sector Lletygarwch a Gwasanaethau Bwyd.
Adnoddau
Gweminar: Lleoliadau addysg a Phrifysgolion
Dolenni i’r recordiad, dec sleidiau a sesiwn holi ac ateb y gweminar a gynhaliwyd 20 Chwefor 2024 fel cyflwyniad i’r Gyfraith Ailgylchu yn y Gweithle yng Nghymru.
Pwy a gynhwysir yn y sector hwn: Yr holl leoliadau addysg yng Nghymru yn cynnwys ysgolion gwladol a rhai preifat, ynghyd â sefydliadau addysg bellach ac uwch fel colegau a phrifysgolion. Siaradwr: Meirion Edwards, Cyngor Sir Ynys Mon, Georgina Taubman, Prifysgol Caerdydd & Gareth Davies, Consortiwm Manwerthu Cymru
3 filesYsgol Gynradd Pontyberem - Astudiaeth achos
Mae ysgol gynradd flaengar yn Sir Gaerfyrddin yn ymateb i’r her ailgylchu ac yn diddymu deunydd pacio gormodol, gan gynnwys cartonau llaeth untro
PDF - 593KBLawrlwythoColeg Sir Benfro - Astudiaeth achos
Darganfyddwch sut mae’r coleg addysg a hyfforddiant ôl-16 hwn wedi gwella cyfraddau ailgylchu trwy weithio’n effeithiol gyda’i gwmni glanhau contract (Solo), LAS Recycling a Chyngor Sir Penfro
PDF - 595KBLawrlwythoPrifysgol Aberystwyth - Astudiaeth achos
Dysgwch sut mae’r Brifysgol yn darparu profiad ailgylchu cyson ar draws ei gampws yng Ngorllewin Cymru, gyda chefnogaeth monitro rhagweithiol a chyfathrebu wedi'i adnewyddu
PDF - 1MBLawrlwythoCNC Adnoddau ar gyfer y sector addysg
Fel rheoleiddiwr y gyfraith hon, mae Cyfoeth Naturiol Cymru am gefnogi gweithleoedd yng Nghymru i wella maint ac ansawdd eu hailgylchu a lleihau eu risg o ddiffyg cydymffurfio.
Mae’r pecyn yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau a awgrymir gyda’r nod o ennyn diddordeb dysgwyr fel rhan o’r broses.
PDF - 636KBLawrlwythoBeth Sydd yn Eich Bin? Addysg
Bydd y ‘Canllaw Biniau’ yn eich helpu i gyfrifo eich anghenion ar gyfer cynwysyddion ailgylchu a gwastraff unwaith mae eich deunyddiau wedi’u gwahanu oddi wrth ei gilydd.
Surplus food redistribution resource hub
Os ydych yn chwilio am syniadau ar gyfer beth i’w wneud gyda bwyd dros ben, gall y Surplus food hub helpu.
Hwb a gynhelir gan WRAP gyda gwybodaeth i helpu i gynyddu’r broses o ailddosbarthu gwastraff bwyd dros ben. (Sylwch: mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.)