Gweminarau: Cyflwyno’r Gyfraith Ailgylchu yn y Gweithle yng Nghymru
Rydym bellach wedi darparu tair gweminar arall, chwe mis ar ôl cyflwyno’r Gyfraith Ailgylchu yn y Gweithle yng Nghymru.
Roeddent yn cynnwys:
Eich atgoffa o’r Gyfraith Ailgylchu yn y Gweithle.
Crynodeb gynhwysfawr o’r rheoliadau gwastraff.
Dirnadaethau gwerthfawr gan siaradwyr gwadd a fydd yn rhannu eu profiadau ymarferol.
Cyfle i ofyn cwestiynau i ddatblygu ar eich gwybodaeth.
Gweminarau wedi’u teilwra ar gyfer sectorau penodol er mwyn cael dysgu gan fusnesau eraill.
Cyngor ymarferol ar gyfer eich busnes chi.
Cliciwch ar y dolenni isod i wylio'r recordiadau o'r digwyddiadau hyn.
Sector: Lletygarwch a gwasanaethau bwyd
Dydd Llun 4 Tachwedd 2024 3:30yh
Recordiad (Saesneg yn unig)
Pwy sydd wedi’i gynnwys yn y sector hwn: Gwestai, bwytai, caffis, siopau tecawê, ffreuturau, tafarndai, swyddfeydd gyda ffreuturau neu gaffis, ysgolion a cholegau, carchardai, cartrefi nyrsio ac ysbytai ac unrhyw weithleoedd eraill sy’n gweini bwyd.
Sector: Cyffredinol - Eich atgoffa o’r Gyfraith Ailgylchu yn y Gweithle.
Dydd Iau 7 Tachwedd 2024 2:30yh
Recordiad (Saesneg yn unig)
Pwy sydd wedi’i gynnwys yn y sector hwn: Holl weithleoedd ledled Cymru
Sector: Adeiladu a Dymchwel
Dydd Mawrth 12 Tachwedd 2024 10:30yb
Recordiad (Saesneg yn unig)
Os na allwch fod yn bresennol ar ddyddiadau’r gweminarau, yna bydd recordiadau'n cael eu rhannu yma erbyn Ionawr 2025.
Mae’r holl weminarau blaenorol ar gael i wrando arnynt o hyd ar wefan Y Busnes o Ailgylchu