Canllawiau ar gyfer
HOLL WEITHLEOEDD

Canllawiau ar gyfer casglu sWEEE

Fel rhan o roi rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle ar waith fesul cam, o fis Ebrill 2026 ymlaen, bydd y gofyniad ar weithleoedd i gyflwyno gwastraff penodol ar wahân i'w ailgylchu yn ymestyn i Gyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff bach (sWEEE). Yn flaenorol dim ond sWEEE heb ei werthu yr oedd yn ofynnol ei wahanu.

Parhau i ddarllen

  • Beth yw sWEEE?

    sWEEE yw unrhyw eitem wastraff gyda phlwg, batri neu gebl sy'n llai na 50 centimetr ar ei ymyl hiraf. Mae hyn yn cynnwys holl dechnoleg ac eitemau trydanol bach diangen eich sefydliad gan gynnwys er enghraifft, gliniaduron, ffonau, tegelli, tostwyr, dyfeisiau meddygol, lampau a goleuadau ac thŵls trydan.

  • Pam mae sWEEE bellach wedi'i gynnwys yn y Gyfraith Ailgylchu yn y Gweithle?

    Mae'r gofyniad hwn wedi'i roi ar waith i sicrhau nad yw eitemau trydanol gwastraff bach o weithleoedd yn cael ei waredu gyda gwastraff cyffredinol (bagiau du) ac yn hytrach yn cael ei gadw ar wahân i wastraff arall er mwyn gallu ei ailgylchu.

  • sWEEE a Gwastraff Peryglus

    Bydd yr adran hon yn eich helpu i ddeall pa sWEEE sy'n beryglus a sut i'w reoli.

  • Sut i baratoi ar gyfer y gofyniad newydd

    Camau y gallwch eu cymryd i sicrhau bod eich gweithle yn barod ar gyfer y gofyniad newydd.

  • Rheoli eich sWEEE – ailddefnyddio, atgyweirio ac ailgylchu

    Cyngor ar ystyried a allech chi atgyweirio neu ailddefnyddio eich eitemau trydanol a sut i ailgylchu eich sWEEE yn ddiogel os na allwch chi.

  • Adnoddau

    Adnoddau defnyddiol ar gael i gefnogi cyflwyno casgliadau sWEEE yn eich gweithle

Dewis sector arall