HOLL WEITHLEOEDD
Help i’ch busnes ar bob cam o’r siwrne.
Rhad i bob weithle, fel busnesau, y sector cyhoeddus, ac elusennau, wahanu eu deunyddiau ailgylchadwy yn yr un modd ag y gwnaiff y rhan fwyaf o aelwydydd eisoes.
Mae’n berthnasol hefyd i holl gasglwyr a phroseswyr gwastraff ac ailgylchu sy’n rheoli gwastraff sy’n debyg i wastraff domestig o weithleoedd.
O fis Ebrill 2026 ymlaen, bydd yn ofynnol i bob gweithle gyflwyno sWEEE ar wahân i'w gasglu ar gyfer ailgylchu hefyd. Rydym wedi cynhyrchu canllawiau i helpu gweithleoedd i baratoi ar gyfer y gofyniad newydd hwn.
Trosolwg o’r cynnwys
Canllawiau ar gyfer casglu sWEEE
O fis Ebrill 2026 ymlaen, bydd yn ofynnol i bob gweithle gyflwyno sWEEE ar wahân i'w gasglu ar gyfer ailgylchu
Beth yw’r gyfraith?
Mae’r yn ei gwneud yn ofynnol i holl weithleoedd wahanu’r deunyddiau a restrir isod ar gyfer eu hailgylchu. Bydd angen hefyd i weithleoedd drefnu i’r gwastraff gael ei gasglu ar wahân i wastraff arall.
Pwy sy'n gyfrifol am orfodi'r gyfraith?
Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr bod deunyddiau yn cael eu gwahanu a’u casglu’n gywir, a bod y gwaharddiad ar anfon ailgylchu i dirlenwi neu i’w losgi yn cael ei ddilyn.
Awdurdodau Lleol sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr bod y gwaharddiad ar wastraff bwyd yn mynd i garthffosydd yn cael ei ddilyn.
Sut i gydymffurfio
Mae’n bwysig darllen Casglu deunyddiau gwastraff ar wahân ar gyfer ailgylchu: cod ymarfer Cymru, sy’n manylu ymhellach ar sut i gydymffurfio â’r gyfraith i wahanu gwastraff a’i gadw ar wahân i’w ailgylchu.
Mwy o gymorth a chanllawiau
Mae WRAP Cymru wedi cynhyrchu nifer o adnoddau i gefnogi gweithleoedd.