Canllawiau ar gyfer
Digwyddiadau awyr agored

Digwyddiadau Awyr AgoredAdnoddau

Mae gwaharddiad ar Blastigion Untro yn cynnwys cyllyll a ffyrc plastig, ffyn troi diodydd, nwyddau polystyren a gwellt yfed.

A Greener Future – cynllun ardystio sy’n helpu digwyddiadau a gwyliau fod yn ecogyfeillgar ac yn gynaliadwy.

Future Festival tools – adnoddau, offerynnau a hyfforddiant ar gyfer y diwydiant gwyliau i helpu lleihau effaith amgylcheddol y diwydiant.

Canllaw sbwriel mewn digwyddiadau Cadw Cymru’n Daclus – canllaw i’w lawrlwytho sy’n rhoi cyngor ac awgrymiadau ar gyfer taclo sbwriel mewn digwyddiadau.

Mae deunydd pacio plastig yn y diwydiant lletygarwch a gwasanaethau bwyd yn cynnig nifer o heriau a chyfleoedd, mae gan yr UK Plastic Pact bedwar targed sy’n gweithio tuag at fyd sy’n rhoi gwerth ar blastig. Mae camau y gallwch eu cymryd i gyflawni’r targedau hyn.

Mae’r Pecyn adnoddau map llwybr lleihau gwastraff bwyd yn cynnig camau i’ch helpu i leihau gwastraff bwyd. I weld beth mae eraill wedi’i wneud, ewch i Astudiaethau achos lletygarwch a gwasanaethau bwyd.

Adnoddau

  • Gweminar: Digwyddiadau awyr agored

    Dolenni i’r recordiad, dec sleidiau a sesiwn holi ac ateb y gweminar a gynhaliwyd 8 Chwefor 2024 fel cyflwyniad i’r Gyfraith Ailgylchu yn y Gweithle yng Nghymru.

    Siaradwr: Andy Fryers, Hay Festival & Consortiwm Manwerthu Cymru Pwy a gynhwysir yn y sector hwn: Digwyddiadau, ffeiriau, cyngherddau, marchnadoedd, a gwyliau yng Nghymru a allai fod yn gweithredu ar sail ddielw neu fasnachol.

    3 files
  • Surplus food redistribution resource hub

    Os ydych yn chwilio am syniadau ar gyfer beth i’w wneud gyda bwyd dros ben, gall y Surplus food hub helpu.

    Hwb a gynhelir gan WRAP gyda gwybodaeth i helpu i gynyddu’r broses o ailddosbarthu gwastraff bwyd dros ben. (Sylwch: mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.)

Dewis sector arall