Canllawiau ar gyfer HOLL WEITHLEOEDD
Yn ôl i'r adran

Canllawiau ar gyfer casglu sWEEE

Rheoli eich sWEEE – ailddefnyddio, atgyweirio ac ailgylchu

Ailddefnyddio ac atgyweirio

Er mwyn newid i economi fwy cylchol, mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn cymryd camau i sicrhau bod cynhyrchion yn cael eu cadw mewn defnydd cyhyd â phosibl. Wrth brynu nwyddau yn y lle cyntaf, ceisiwch ystyried pa mor hir fydd oes yr eitem a pha mor hawdd yw ei thrwsio.

Os oes gennych chi eitemau trydanol bach nad oes eu hangen arnoch chi mwyach, dylech chi ystyried yn gyntaf a ellir eu hailddefnyddio, trwy eu trosglwyddo i staff, neu eu rhoi i sefydliadau ailddefnyddio lleol. Os oes gennych chi eitemau trydanol bach nad ydyn nhw'n gweithio mwyach, dylech chi ystyried a ellir eu hatgyweirio neu eu hadnewyddu i ymestyn eu hoes.

Sut mae ailgylchu sWEEE?

Lle nad yw atgyweirio a/neu ailddefnyddio eich sWEEE yn bosibl, a'ch bod yn penderfynu bod yn rhaid i chi gael gwared ar eich eitem/au, mae'n ofynnol i weithleoedd gadw eu sWEEE ar wahân i fathau eraill o wastraff a sicrhau ei fod naill ai'n cael ei gasglu neu ei ddanfon i'w ailgylchu ymlaen. Mae'r opsiynau ar gyfer casglu neu ollwng eich sWEEE yn gyfrifol yn cynnwys:

  • gwirio gyda gwneuthurwr/cynhyrchydd gwreiddiol eich eitemau trydanol, sydd yn aml â chyfrifoldeb i gymryd trydanol gwastraff yn ôl ar ddiwedd eu hoes

  • gwirio a all yr eitem fynd yn ôl i gynllun dychwelyd lleol yn y siop – mae hyn yn aml yn bosibl os yw'r eitem drydanol fach yn ddefnydd deuol (h.y. eitem gyffredin y gellir ei defnyddio mewn lleoliad cartref ac annomestig fel tegell, sychwr gwallt neu dostiwr) (gweler yr adran danfon isod am ragor o wybodaeth am siopau’n cymryd eitemau’n ôl)

  • gwirio a fydd eich Awdurdod Lleol yn caniatáu ichi fynd â'ch eitem/eitemau i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref (HWRC) sy'n caniatáu mynediad i gwsmeriaid masnachol

  • mynd â'r eitem/au i leoliad danfon neu ddychwelyd preifat a ganiateir a fydd yn derbyn sWEEE eich gweithle

  • gwneud trefniadau gyda chasglwyr gwastraff proffesiynol trwyddedig, fel cwmnïau masnachol neu'ch awdurdod lleol, i'ch eitem/eitemau gael eu casglu (ar wahân i bob deunydd arall) a'u hailgylchu

  • gweithio gyda sefydliadau Gwaredu Asedau Technoleg Gwybodaeth (ITAD) sy'n ymdrin ag offer TG ar ddiwedd ei oes

  • gwneud trefniadau uniongyrchol gydag ailgylchwyr trydanol arbenigol (Cyfleusterau Triniaeth Awdurdodedig Cymeradwy (AATFs))

Mae'n rhaid i gasglwyr gwastraff sy'n casglu sWEEE wneud hynny ar wahân i ddeunyddiau eraill a pheidio â'i gymysgu wedyn. Mae'n ofynnol iddyn nhw ei anfon i'w ailgylchu, fel gyda phob deunydd penodol o dan y Deddfau Ailgylchu yn y Gweithle.