Canllaw ailgylchu yn y gweithle

Addysg

Help i’ch busnes ar bob cam o’r siwrne.

Canllawiau ar gyfer y sector addysg

Newid sector

Dylid darllen y canllaw hwn ar y cyd â Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu: Cod Ymarfer Cymru. Mae’r canllaw hwn yn darparu cyngor ategol ar gyfer sectorau unigol ac ni ddylid ei ddarllen fel canllaw ar ei ben ei hun.

Mae’r canllaw hwn ar gyfer holl leoliadau addysg yng Nghymru yn cynnwys ysgolion y wlad ac ysgolion preifat, ynghyd â sefydliadau addysg bellach ac uwch fel colegau a phrifysgolion.

Trosolwg o’r cynnwys

Pam mae angen ichi ailgylchu?

Ers mis Ebrill 2024 mae'n ofynnol i bob gweithle yng Nghymru gyflwyno deunyddiau penodol ar wahân i'w hailgylchu.

Sut i ddeall eich gwastraff ac ailgylchu’n well

Er mwyn canfod y gwahanol fathau o wastraff y mae eich sefydliad yn ei gynhyrchu, cynhaliwch archwiliad gwastraff trwy gerdded o amgylch gwahanol fannau megis ystafelloedd dosbarth neu weithleoedd, swyddfeydd, ffreuturau neu geginau, i archwilio cynnwys biniau gwastraff cyffredinol ac amlygu unrhyw ymdrechion i leihau gwastraff neu ailgylchu sydd eisoes ar waith.

Atal gwastraff yn y lle cyntaf

Bydd lleihau neu atal faint o wastraff yr ydych yn ei gynhyrchu’n helpu i arbed arian a lleihau maint y biniau y bydd eu hangen arnoch.

Sut i gydymffurfio â’r Gyfraith Ailgylchu

Argymhellwn ichi ddarllen Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu: Cod Ymarfer Cymru i sicrhau eich bod yn gwneud popeth y mae angen ichi ei wneud. Mae’s cyhoeddiad hwn yn cynnwys rhestr o’r holl fathau penodol o eitemau y mae’n rhaid eu hailgylchu.

Gweithredu gwasanaeth ailgylchu

Wrth weithredu gwasanaeth ailgylchu, ystyriwch y canlynol:

Lle ar gyfer eich biniau?

Mae’n bwysig ichi ystyried ble a sut byddwch yn storio eich gwastraff ac ailgylchu.

Gwastraff bwyd a hylendid

Mae canllawiau ar wastraff bwyd i’ch helpu i waredu eich gwastraff yn gywir er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith Dyletswydd i Ofalu bresennol.

Ymgysylltu â staff a disgyblion

Defnyddiwch ein hadnoddauwrth ymgysylltu â’ch staff, disgyblion, neu fyfyrwyr.

Addysg Adnoddau

Syniadau ychwanegol ar gyfer ysgolion, prifysgolion a cholegau

Rydych yn edrych ar ganllawiau ar gyfer y sector addysg ar hyn o bryd

Dewis sector arall