Canllawiau ar gyfer
Addysg

Addysg Adnoddau

Ysgolion:

Lansiodd Cymru yn Ailgylchu ymgyrch ailgylchu mewn ysgolion ym mis Medi 2023 ac mae’n cynnig amrywiaeth o wybodaeth, cyngor ac adnoddau i fachu diddordeb disgyblion a rhoi ailgylchu ar waith.

Mae EcoSgolion yn rhaglen fyd-eang a gaiff ei darparu yng Nghymru gan Cadw Cymru’n Daclus. Cynlluniwyd y rhaglen i annog ac ysbrydoli pobl ifanc i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol i gymuned eu hysgol.

Mae Let’s Go Zero yn ymgyrch newid hinsawdd ar gyfer y DU gyfan i helpu ysgolion fod yn ddi-garbon erbyn 2030. Mae’r ymgyrch yn darparu gwybodaeth, adnoddau, astudiaethau achos a gweminarau i gefnogi ysgolion.

Prifysgolion:

Mae cefnogaeth ar gyfer sefydliadau addysg uwch a phellach ar gael gan yr EAUC (Environmental Association for Universities & Colleges). Maent yn darparu amrywiaeth o adnoddau a gwybodaeth yn arbennig ar gyfer y sector addysg ôl-16.

Gwasanaeth Bwyd:

Mae gwaharddiad ar Blastigion Untro yn cynnwys cyllyll a ffyrc plastig, ffyn troi diodydd, nwyddau polystyren a gwellt yfed.

Guardians of Grub – adnoddau ar gyfer y sector bwyd a lletygarwch i helpu lleihau gwastraff bwyd.

Ar gyfer help a chefnogaeth i fusnesau bwyd, yn cynnwys lleoliadau addysg, i gymryd camau wedi’u targedu i weithredu ar leihau gwastraff yn eu gweithrediadau eu hunain, eu cadwyn gyflenwi a chan ddefnyddwyr, mae’r Pecyn adnoddau map llwybr lleihau gwastraff bwyd yn cynnig camau ymarferol. I weld beth mae eraill wedi’i gyflawni o ddilyn y pecyn adnoddau lleihau gwastraff bwyd gweler Astudiaethau achos lletygarwch a gwasanaethau bwyd.

I gael arweiniad ar roi’r gyfraith newydd ar waith mewn lleoliadau gwasanaeth bwyd yn eich ysgolion, colegau a phrifysgolion, gweler hefyd ein Canllaw ar gyfer y Sector Lletygarwch a Gwasanaethau Bwyd.

Adnoddau

  • Gweminar: Lleoliadau addysg a Phrifysgolion

    Dolenni i’r recordiad, dec sleidiau a sesiwn holi ac ateb y gweminar a gynhaliwyd 20 Chwefor 2024 fel cyflwyniad i’r Gyfraith Ailgylchu yn y Gweithle yng Nghymru.

    Pwy a gynhwysir yn y sector hwn: Yr holl leoliadau addysg yng Nghymru yn cynnwys ysgolion gwladol a rhai preifat, ynghyd â sefydliadau addysg bellach ac uwch fel colegau a phrifysgolion. Siaradwr: Meirion Edwards, Cyngor Sir Ynys Mon, Georgina Taubman, Prifysgol Caerdydd & Gareth Davies, Consortiwm Manwerthu Cymru

    3 files
  • Ysgol Gynradd Pontyberem - Astudiaeth achos

    Ysgol Gynradd Pontyberem

    PDF - 593KB
    Lawrlwytho
  • CNC Adnoddau ar gyfer y sector addysg

    Fel rheoleiddiwr y gyfraith hon, mae Cyfoeth Naturiol Cymru am gefnogi gweithleoedd yng Nghymru i wella maint ac ansawdd eu hailgylchu a lleihau eu risg o ddiffyg cydymffurfio.

    Mae’r pecyn yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau a awgrymir gyda’r nod o ennyn diddordeb dysgwyr fel rhan o’r broses.

    PDF - 636KB
    Lawrlwytho
  • Surplus food redistribution resource hub

    Os ydych yn chwilio am syniadau ar gyfer beth i’w wneud gyda bwyd dros ben, gall y Surplus food hub helpu.

    Hwb a gynhelir gan WRAP gyda gwybodaeth i helpu i gynyddu’r broses o ailddosbarthu gwastraff bwyd dros ben. (Sylwch: mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.)

  • Beth Sydd yn Eich Bin? Addysg

    Bydd y ‘Canllaw Biniau’ yn eich helpu i gyfrifo eich anghenion ar gyfer cynwysyddion ailgylchu a gwastraff unwaith mae eich deunyddiau wedi’u gwahanu oddi wrth ei gilydd.

    Ysgolion cynradd

    Ysgolion uwchradd

Dewis sector arall