Canllawiau ar gyfer casglu sWEEE
Pam mae sWEEE bellach wedi'i gynnwys yn y Gyfraith Ailgylchu yn y Gweithle?
Gellir ailgylchu 75% o'r deunyddiau mewn eitemau trydanol gwastraff. Os bydd eitemau trydanol gwastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi neu'n cael eu llosgi, mae adnoddau gwerthfawr ac yn aml yn gyfyngedig fel aur, copr, alwminiwm a dur yn cael eu colli am byth. Ar ben hynny, mae defnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu o eitemau trydanol gwastraff i greu cynhyrchion newydd yn lleihau allyriadau carbon ac yn lleihau ein dibyniaeth ar echdynnu deunyddiau crai a'r difrod amgylcheddol a'r golled bioamrywiaeth gysylltiedig y gall hyn ei achosi.
Yn ogystal, mae llawer o eitemau trydanol bach yn cynnwys batris lithiwm-ion. Pan gânt eu rhoi yn y ffrwd wastraff gyffredinol (bagiau du), maent yn aml yn cael eu cywasgu yn ystod y broses gasglu sy'n achos hysbys o danau gwastraff sy'n niweidiol i'r amgylchedd ac yn economaidd.