Canllawiau ar gyfer HOLL WEITHLEOEDD
Yn ôl i'r adran

Canllawiau ar gyfer casglu sWEEE

sWEEE a Gwastraff Peryglus

Mae rhywfaint o sWEEE wedi'i ddosbarthu fel gwastraff peryglus oherwydd presenoldeb sylweddau niweidiol fel plwm, mercwri, a Llygryddion Organig Parhaus (POPs), a geir yn gyffredin mewn cydrannau fel byrddau cylched, plastigau gwrth-dân a batris. Fodd bynnag, nid ydyw i gyd yn beryglus. Mae'r dosbarthiad peryglus yn dibynnu ar faint y sylweddau hyn ac efallai na fydd rhai eitemau sWEEE yn cynnwys yr elfennau hyn.

Ers 2005, mae gofyniad cyfreithiol wedi bod o dan reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 i gadw gwastraff peryglus, ac felly sWEEE peryglus, ar wahân i wastraff arall.

Bydd y gofyniad newydd o dan reoliadau ailgylchu yn y gweithle yn sicrhau bod rhaid cadw holl sWEEE o weithleoedd (peryglus a dim yn beryglus ill dau) ar wahân i wastraff arall i'w brosesu ymlaen ac na ddylid ei roi yn eich bin gwastraff cyffredinol yn ôl y gyfraith.

Er bod y rheoliadau gwastraff peryglus yn bodoli, gwyddom fod eitemau trydanol gwastraff bach peryglus (a dim yn beryglus) yn dal i gael eu gwaredu mewn ffrydiau gwastraff cyffredinol yng Nghymru bob blwyddyn, gan arwain at golli adnoddau gwerthfawr a pheri risg tân. Bydd y ddau fframwaith rheoleiddio hyn nawr yn cydweithio i sicrhau bod yr holl wastraff trydanol bach yn cael ei ddargyfeirio o ffrydiau gwastraff gweddilliol er mwyn cefnogi ailddefnyddio neu ailgylchu gwastraff trydanol bach yn ddiogel.

Sut fydda i'n gwybod a yw fy ngwastraff trydanol bach yn beryglus ai peidio?

Bydd rhai gweithleoedd yn gwybod a yw eu gwastraff trydanol bach yn beryglus, er enghraifft, oherwydd natur arbenigol eu busnes (e.e. cwmni peirianneg, gwneuthurwr trydanol bach) neu oherwydd taflenni data neu ganllawiau'r gwneuthurwr a gyflenwir gyda'r offer trydanol bach. Os nad ydych chi'n siŵr, mae'r Cod Ymarfer yn darparu dolenni i ganllawiau a all eich helpu i weithio hyn allan. Fodd bynnag, os nad yw eich sWEEE wedi'i wirio i weld a yw'n beryglus, neu os ydych chi wedi asesu eich gwastraff ac yn dal yn ansicr a yw'n beryglus ai peidio, mae'r Cod yn esbonio y dylech chi gymhwyso'r egwyddor ragofalus a'i ddosbarthu fel gwastraff peryglus a'i reoli yn unol â hynny. Mae rheolau ychwanegol ar gyfer sut y mae'n rhaid symud a thrin gwastraff peryglus. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, siaradwch â'ch casglwr gwastraff i gytuno ar sut mae angen casglu a rheoli eich eitemau.