Atal gwastraff yn y lle cyntaf
Ymhlith y ffyrdd y gallwch leihau faint o wastraff a gynhyrchir yn eich digwyddiad mae:
Darparu e-docynnau, canllawiau electronig a mapiau i ymwelwyr;
Nodi y dylid defnyddio cynhyrchion eilgylch neu y gellir eu hailgylchu yn yr amodau masnachu ar gyfer deunyddiau hyrwyddo neu ar gyfer cynhyrchion gwasanaeth bwyd;
Annog arlwywyr neu werthwyr i ddarparu cwpanau neu wydrau y gellir eu hail-lenwi, sefydlu cynllun blaendal a dychwelyd ar gyfer cynwysyddion diodydd y gellir eu hailddefnyddio, neu annog mynychwyr i ddod â’u cwpanau eu hunain gan gynnig gostyngiad ar ddiodydd;
Darparu gorsafoedd ail-lenwi ar gyfer dŵr yfed;
Cyfyngu ar ba nwyddau y caiff ymwelwyr, cyflenwyr, gwerthwyr neu arlwywyr ddod â nhw i’r lleoliad. Annog peidio â defnyddio eitemau untro fel pecynnau saws, llaeth, siwgr neu goffi unigol ac
Annog arlwywyr i roddi stoc ormodol neu stoc heb ei werthu – gallwch roi gwarged bwyd i elusen neu gael oergell ar gyfer staff i ddal cynnyrch y gallant ei fwyta neu ei gludo adref am ddim ar ddiwedd y digwyddiad. Mae canllaw ar gael ar Sut mae’n rhaid i fusnesau bwyd gael gwared ar fwyd a chyn ddeunyddiau bwyd;
Mwy o ganllawiau ar gyfer y sector digwyddiadau awyr agored
- Pam mae angen ichi ailgylchu?
- Sut i ddeall eich gwastraff ac ailgylchu’n well
- Sut i gydymffurfio â’r gyfraith ailgylchu newydd
- Sut i drefnu gwasanaeth ailgylchu newydd
- Lle ar gyfer eich biniau?
- Gwastraff bwyd a hylendid
- Ymgysylltu ag ymwelwyr, masnachwyr neu werthwyr a staff
- Digwyddiadau Awyr AgoredAdnoddau