Canllawiau ar gyfer
Lletygarwch a bwyd

Adnoddau Lletygarwch

Mae gwaharddiad ar Blastigion Untro yn cynnwys cyllyll a ffyrc plastig, ffyn troi diodydd, nwyddau polystyren a gwellt yfed.

Os ydych chi’n rhedeg gwesty ac yr hoffech fesur eich gwastraff, mae’r Fethodoleg Mesur Gwastraff Gwestai yn cynnig dull cyffredin ar gyfer casglu data gwastraff, a mesur ac adrodd ar wastraff.

Cytundeb Bwyd a Diod y DU (yn flaenorol Ymrwymiad Courtauld 2030), a gynhelir gan WRAP, ar draws cadwyn fwyd y DU gyfan i gyflawni lleihad mewn gwastraff bwyd, nwyon tŷ gwydr (NTG) a straen dŵr ar o’r fferm i’r fforc.

Mae deunydd pacio plastig yn y diwydiant lletygarwch a gwasanaethau bwyd yn cynnig nifer o heriau a chyfleoedd, mae gan yr UK Plastic Pact bedwar targed sy’n gweithio tuag at fyd sy’n rhoi gwerth ar blastig. Mae camau y gallwch eu cymryd i gyflawni’r targedau hyn.

Mae’r Pecyn adnoddau map llwybr lleihau gwastraff bwyd yn cynnig camau i’ch helpu i leihau gwastraff bwyd. I weld beth mae eraill wedi’i wneud, ewch i Astudiaethau achos lletygarwch a gwasanaethau bwyd.

Adnoddau

  • Gwesty Mercure Abertawe - Astudiaeth achos

    Gwesty Mercure Abertawe

    PDF - 498KB
    Lawrlwytho
  • Surplus food redistribution resource hub

    Os ydych yn chwilio am syniadau ar gyfer beth i’w wneud gyda bwyd dros ben, gall y Surplus food hub helpu.

    Hwb a gynhelir gan WRAP gyda gwybodaeth i helpu i gynyddu’r broses o ailddosbarthu gwastraff bwyd dros ben. (Sylwch: mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.)

  • Gweminar: Lletygarwch a gwasanaethau bwyd

    Dolenni i’r recordiad, dec sleidiau a sesiwn holi ac ateb y gweminar a gynhaliwyd 7 Chwefor 2024 fel cyflwyniad i’r Gyfraith Ailgylchu yn y Gweithle yng Nghymru.

    Siaradwyr: Keenan Food Waste Collection Service & Consortiwm Manwerthu Cymru Pwy a gynhwysir yn y sector hwn: Gwestai, bwytai, caffis, tecawês, ffreuturau, tafarndai, swyddfeydd sydd â ffreuturau neu gaffis, ysgolion a cholegau, carchardai, cartrefi nyrsio ac ysbytai ac unrhyw weithleoedd eraill sy’n gweini bwyd.

    3 files
  • Gweminar: Lletygarwch a gwasanaethau bwyd Tach 24

    Dolenni i’r recordiad, dec sleidiau a sesiwn holi ac ateb y gweminar a gynhaliwyd 4 Tachwedd 2024, chwe mis ar ôl cyflwyno’r Gyfraith Ailgylchu yn y Gweithle yng Nghymru.

    Pwy sydd wedi’i gynnwys yn y sector hwn: Gwestai, bwytai, caffis, siopau tecawê, ffreuturau, tafarndai, swyddfeydd gyda ffreuturau neu gaffis, ysgolion a cholegau, carchardai, cartrefi nyrsio ac ysbytai ac unrhyw weithleoedd eraill sy’n gweini bwyd.

    3 files
  • Beth Sydd yn Eich Bin? Sector Lletygarwch a Gwasanaeth Bwyd

    Bydd y ‘Canllaw Biniau’ yn eich helpu i gyfrifo eich anghenion ar gyfer cynwysyddion ailgylchu a gwastraff unwaith mae eich deunyddiau wedi’u gwahanu oddi wrth ei gilydd.

    Tafarndai

    Bwtai

    Gwestai

    Tecawê

Dewis sector arall