Atal gwastraff yn y lle cyntaf
Dyma rai awgrymiadau i’ch helpu i leihau eich gwastraff:
Rhoddi stoc ormodol neu stoc heb ei werthu – gallwch roi gwarged bwyd i elusen neu gael oergell ar gyfer staff i ddal cynnyrch y gallant ei fwyta neu ei gludo adref am ddim. Mae Canllaw ar gael ar Sut mae’n rhaid i fusnesau bwyd gael gwared ar fwyd a chyn ddeunyddiau bwyd.
Defnyddiwch ddulliau marchnata di-bapur a chynhigiwch dderbynebau di-bapur drwy eu hanfon i gwsmeriaid drwy ebost;
Prynwch nwyddau eilgylch, nwyddau y gellir eu hail-lenwi neu eu hailddefnyddio pan bynnag fo’n bosibl;
Darparwch ffynhonnau dŵr i staff a chwsmeriaid eu defnyddio a defnyddiwch gwpanau, llestri a chyllyll a ffyrc ailddefnyddiadwy;
Ar gyfer diodydd tecawê, anogwch eich cwsmeriaid i ddod â’u cwpan ailddefnyddiadwy eu hunain drwy godi tâl am gwpanau untro a
Sicrhewch cyn lleied â phosibl o ddeunydd pacio ar eich bwyd a diod tecawê a bod y deunydd pacio a gaiff ei ddefnyddio yn ailgylchadwy neu’n ailddefnyddiadwy.
Efallai y bydd cost ynghlwm â gwneud y newidiadau hyn i rai gweithleoedd, ond gallai cynyddu faint rydych yn ei ailgylchu leihau eich costau gwaredu gwastraff yn y tymor canolig i’r tymor hir. Gan fod y gyfraith hon yn berthnasol i holl arlwywyr bwyd a diod, bydd yn cael ei ystyried fel rhan o fodelau busnes a rheoli. Y sectorau lletygarwch, gwasanaethau bwyd a chynhyrchu bwyd a diod yw rhai o gynhyrchwyr gwastraff mwyaf y DU, ac maent yn cynhyrchu ffrydiau gwastraff sy’n gyffredinol yn hawdd eu hailgylchu.