Adnoddau Lletygarwch
Mae gwaharddiad ar Blastigion Untro yn cynnwys cyllyll a ffyrc plastig, ffyn troi diodydd, nwyddau polystyren a gwellt yfed.
Os ydych chi’n rhedeg gwesty ac yr hoffech fesur eich gwastraff, mae’r Fethodoleg Mesur Gwastraff Gwestai yn cynnig dull cyffredin ar gyfer casglu data gwastraff, a mesur ac adrodd ar wastraff.
Cytundeb Bwyd a Diod y DU (yn flaenorol Ymrwymiad Courtauld 2030), a gynhelir gan WRAP, ar draws cadwyn fwyd y DU gyfan i gyflawni lleihad mewn gwastraff bwyd, nwyon tŷ gwydr (NTG) a straen dŵr ar o’r fferm i’r fforc.
Mae deunydd pacio plastig yn y diwydiant lletygarwch a gwasanaethau bwyd yn cynnig nifer o heriau a chyfleoedd, mae gan yr UK Plastic Pact bedwar targed sy’n gweithio tuag at fyd sy’n rhoi gwerth ar blastig. Mae camau y gallwch eu cymryd i gyflawni’r targedau hyn.
Mae’r Pecyn adnoddau map llwybr lleihau gwastraff bwyd yn cynnig camau i’ch helpu i leihau gwastraff bwyd. I weld beth mae eraill wedi’i wneud, ewch i Astudiaethau achos lletygarwch a gwasanaethau bwyd.
Adnoddau
Gwesty Mercure Abertawe - Astudiaeth achos
Gwesty Mercure Abertawe
PDF - 498KBLawrlwythoSurplus food redistribution resource hub
Os ydych yn chwilio am syniadau ar gyfer beth i’w wneud gyda bwyd dros ben, gall y Surplus food hub helpu.
Hwb a gynhelir gan WRAP gyda gwybodaeth i helpu i gynyddu’r broses o ailddosbarthu gwastraff bwyd dros ben. (Sylwch: mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.)
Gweminar: Lletygarwch a gwasanaethau bwyd
Dolenni i’r recordiad, dec sleidiau a sesiwn holi ac ateb y gweminar a gynhaliwyd 7 Chwefor 2024 fel cyflwyniad i’r Gyfraith Ailgylchu yn y Gweithle yng Nghymru.
Siaradwyr: Keenan Food Waste Collection Service & Consortiwm Manwerthu Cymru Pwy a gynhwysir yn y sector hwn: Gwestai, bwytai, caffis, tecawês, ffreuturau, tafarndai, swyddfeydd sydd â ffreuturau neu gaffis, ysgolion a cholegau, carchardai, cartrefi nyrsio ac ysbytai ac unrhyw weithleoedd eraill sy’n gweini bwyd.
3 filesGweminar: Lletygarwch a gwasanaethau bwyd Tach 24
Dolenni i’r recordiad, dec sleidiau a sesiwn holi ac ateb y gweminar a gynhaliwyd 4 Tachwedd 2024, chwe mis ar ôl cyflwyno’r Gyfraith Ailgylchu yn y Gweithle yng Nghymru.
Pwy sydd wedi’i gynnwys yn y sector hwn: Gwestai, bwytai, caffis, siopau tecawê, ffreuturau, tafarndai, swyddfeydd gyda ffreuturau neu gaffis, ysgolion a cholegau, carchardai, cartrefi nyrsio ac ysbytai ac unrhyw weithleoedd eraill sy’n gweini bwyd.
3 files