Sut i ddeall eich gwastraff ac ailgylchu’n well
Er mwyn deall y gwahanol fathau o wastraff y mae eich siop yn ei gynhyrchu, gwnewch archwiliad gwastraff trwy gerdded trwy'r gwahanol fannau yn eich eiddo, h.y., blaen a chefn y siop, yn cynnwys mannau warws a danfon, i archwilio cynnwys biniau gwastraff cyffredinol, ac i amlygu unrhyw ymdrechion lleihau gwastraff neu ailgylchu sydd eisoes ar waith.
Mewn siop, mae’r mannau sy’n fwyaf tebygol o gynhyrchu gwastraff yn cynnwys:
warysau/cefn y siop – deunydd pacio fel cardbord, ffilmiau plastig a deunydd lapio;
ystafell staff/ystafell fwyta/swyddfa – yn creu papur, bwyd, a deunyddiau pacio a
blaen y siop – peth gwastraff deunyddiau pacio, deunyddiau hyrwyddo, stoc wedi'i ddifrodi a chynhyrchion heb eu gwerthu.
Gan ddibynnu ar natur eich busnes a'r eitemau rydych yn eu gwerthu, efallai y bydd mathau o wastraff y byddwch yn eu cynhyrchu, er enghraifft stoc wedi'i ddifrodi, a allai fod yn beryglus ac a allai fod angen gwasanaeth casglu gwastraff arbenigol.