Canllawiau ar gyfer
Cyfleusterau hamdden a’r sector adloniant

Adnoddau Hamdden ac Adloniant

Mae gwaharddiad ar Blastigion Untro yn cynnwys cyllyll a ffyrc plastig, ffyn troi diodydd, nwyddau polystyren a gwellt yfed.

Os ydych chi’n rhedeg gwesty ac yr hoffech fesur eich gwastraff, mae’r Fethodoleg Mesur Gwastraff Gwestai yn cynnig dull cyffredin ar gyfer casglu data gwastraff, a mesur ac adrodd ar wastraff. Mae hwn ar gael ar wefan y Sustainable Hospitality Alliance.

Mae’r Pecyn adnoddau map llwybr lleihau gwastraff bwyd yn cynnig camau i’ch helpu i leihau gwastraff bwyd. I weld beth mae eraill wedi’i wneud, ewch i Astudiaethau achos lletygarwch a gwasanaethau bwyd ar wefan WRAP.

Rydym wedi datblygu asedau cyfathrebu rhad ac am ddim y gellir eu lawrlwytho i helpu i hyrwyddo’r cyfleusterau ailgylchu ar eich safle.

Adnoddau

  • Canllaw Cyfathrebu ar gyfer Perchnogion Parciau Carafanau, Meysydd Gwersylla a Pharciau Gwyliau

    Pwrpas y canllaw hwn yw helpu perchnogion parciau carafanau, meysydd gwersylla a pharciau gwyliau godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd ailgylchu ymysg staff ac ymwelwyr ac annog gwahanu a chasglu deunyddiau gwastraff i’w hailgylchu yn gywir.

    PDF - 1MB
    Lawrlwytho
  • Posteri: Meysydd carafanau a meysydd gwersylla

    Posteri cyfarwyddiadau a ffordd o fyw i'w defnyddio o amgylch eich meysydd carafanau a meysydd gwersylla

    Am ddim i’w lawrlwytho mewn fformatau ffeil PDF, InDesign ac MS word.

    Mae opsiwn hefyd am boster ‘defnyddio llai o inc’ sy’n defnyddio llai o inc wrth argraffu.

    3 files
  • Taflen groeso: Meysydd carafanau a meysydd gwersylla

    I’w rhannu gyda staff ac ymwelwyr, gyda chyfarwyddiadau am yr hyn y gellir ei ailgylchu, sut a ble ar y safle. Gellir argraffu neu rannu hon yn electronig.

    2 files
  • Gweminar: Cyfleusterau adloniant a hamdden

    Dolenni i’r recordiad, dec sleidiau a sesiwn holi ac ateb y gweminar a gynhaliwyd 31 Ionawr 2024 fel cyflwyniad i’r Gyfraith Ailgylchu yn y Gweithle yng Nghymru.

    Pwy a gynhwysir yn y sector hwn: Llety gwyliau, parciau/cyrchfannau gwyliau, gwersylloedd, meysydd carafanau, llety gwely a brecwast, a gwestai. Mae hefyd yn cynnwys canolfannau cymunedol a neuaddau pentref, lleoliadau adloniant a chwaraeon (yn cynnwys canolfannau hamdden), meysydd a stadia chwaraeon, caeau sioe, adeiladau treftadaeth, llyfrgelloedd, ac amgueddfeydd. Siaradwr: Bluestone, Marten Lewis & Consortiwm Manwerthu Cymru

    3 files
  • Canolfan Hamdden Caerfyrddin - Astudiaeth achos

    Dysgwch sut mae’r cyfleuster hamdden cyhoeddus hwn wedi cyflwyno ailgylchu ar wahân fel rhan o’i nod i leihau gwastraff cyffredinol i 10% erbyn 2030

    PDF - 583KB
    Lawrlwytho
  • Gwesty Mercure Abertawe - Astudiaeth achos

    Mae’r gwesty hwn wedi mabwysiadu dull tîm cyfan o gyflawni gwahanu ailgylchu ac mae’n talu ar ei ganfed, wedi’i ategu gan ddulliau arloesol o fonitro a rheoli gwastraff bwyd

    PDF - 498KB
    Lawrlwytho
  • Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Tŷ Tredegar - Studiaeth achos

    Mae tŷ a gerddi hanesyddol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi cofleidio Ailgylchu yn y Gweithle, gyda chefnogaeth Biffa sy’n darparu data gwastraff i helpu timau lleol a chenedlaethol fonitro eu llwyddiannau ailgylchu

    PDF - 700KB
    Lawrlwytho
Dewis sector arall