Lletygarwch a bwyd
Help i’ch busnes ar bob cam o’r siwrne.
Dylid darllen y canllaw hwn ar y cyd â Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu: Cod Ymarfer Cymru. Mae’r canllaw hwn yn darparu cyngor ategol ar gyfer sectorau unigol ac ni ddylid ei ddarllen fel canllaw ar ei ben ei hun.
Mae’r canllaw hwn ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio yn y sector lletygarwch a gwasanaethau bwyd.
Mae’n berthnasol i westai, bwytai, caffis, tecawês, ffreuturau, tafarndai, swyddfeydd gyda ffreuturau neu gaffis, ysgolion a cholegau, carchardai, cartrefi nyrsio, ysbytai ac unrhyw weithleoedd eraill sy’n gweini bwyd.
Mae’r canllaw hwn ar gyfer busnesau o bob maint yn cynnwys y rhai sydd â nifer o safleoedd, a’r rhai sy’n gweithredu mewn un lleoliad. Mae hefyd yn berthnasol i safleoedd masnachfraint yn y sector bwyd.
Bydd y gyfraith newydd yn effeithio ar unrhyw un sy’n gweini bwyd a diod i’w fwyta i mewn, neu fel tecawê.
Trosolwg o’r cynnwys
Pam mae angen ichi ailgylchu?
Ers mis Ebrill 2024 mae'n ofynnol i bob gweithle yng Nghymru gyflwyno deunyddiau penodol ar wahân i'w hailgylchu.
Sut i ddeall eich gwastraff ac ailgylchu’n well
Er mwyn deall y gwahanol fathau o wastraff y mae eich gweithle yn ei gynhyrchu, gwnewch archwiliad gwastraff trwy gerdded trwy'r gwahanol fannau yn eich eiddo.
Atal gwastraff yn y lle cyntaf
Bydd lleihau neu atal faint o wastraff yr ydych yn ei gynhyrchu’n helpu i arbed arian a lleihau maint y biniau y bydd eu hangen arnoch.
Sut i gydymffurfio
Argymhellwn ichi ddarllen Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu: Cod Ymarfer Cymru i sicrhau eich bod yn gwneud popeth y mae angen ichi ei wneud. Mae’s cyhoeddiad hwn yn cynnwys rhestr o’r holl fathau penodol o eitemau y mae’n rhaid eu hailgylchu.
Sut i drefnu gwasanaeth ailgylchu
Os bydd angen ichi drefnu gwasanaeth casgliadau ailgylchu newydd ar gyfer eich sefydliad, mae’n werth ystyried y canlynol:
Lle ar gyfer eich biniau?
Mae’n bwysig ichi ystyried ble a sut byddwch yn storio eich gwastraff ac ailgylchu.
Gwastraff bwyd a hylendid
Mae canllawiau ar wastraff bwyd i’ch helpu i waredu eich gwastraff yn gywir er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith Dyletswydd i Ofalu bresennol.
Syniadau hyfforddi staff
Gallwch ddefnyddio ein hadnoddau wrth ymgysylltu â'ch gweithwyr.
Adnoddau Lletygarwch
Cyngor arall ar gyfer busnesau lletygarwch neu fwyd