Ymgysylltu a chyfathrebu
Ymgysylltu â staff
Darparu canllawiau a gwybodaeth ar dudalennau mewnrwyd yr Ymddiriedolaethau / ysbytai i'r holl staff eu cyrchu.
Sicrhau bod pob adran, ward, clinig yn deall sut y bydd y gofynion newydd yn effeithio arnyn nhw a'u casgliadau gwastraff.
Darparu sesiynau hyfforddi ar-lein gorfodol byr ar gyfer yr holl staff yn amlinellu pam mae'r newidiadau'n digwydd a beth sydd angen iddynt ei wneud i gydymffurfio.
Cynnwys hyfforddiant rheolaidd ar wastraff ac ailgylchu fel rhan o'ch hyfforddiant staff gorfodol.
Gofyn am adborth os nad yw systemau ailgylchu yn gweithio'n dda, gwneud yn siŵr bod staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwrando a bod problemau'n cael eu nodi'n brydlon cyn iddynt achosi problemau mwy.
Rhoi cyfarwyddiadau clir ar yr hyn y dylent ei wneud gyda gwahanol ffrydiau gwastraff neu ddeunyddiau ailgylchadwy i'ch helpu i gyflawni’r rhwymedigaethau ailgylchu newydd.
Rhannu gwybodaeth am ailgylchu drwy fforymau staff ar-lein neu ddiweddariadau rheolaidd mewn cyfarfodydd tîm / adrannol ac ar hysbysfyrddau staff fel bod yr holl weithwyr yn clywed am y gwahaniaethau y mae eu camau gweithredu yn eu gwneud.
Monitro perfformiad gwahanol adrannau a rhannu canlyniadau cadarnhaol i annog cystadleuaeth iach.
Ystyried cael hyrwyddwyr ailgylchu y gellid eu defnyddio i rannu diweddariadau, newyddion da a rhoi adborth i'r adrannau Amgylcheddol/Gwastraff ar sut mae'r cynllun newydd yn cael ei ddefnyddio a meysydd i'w gwella.
Monitro halogiad ac addasu cyfathrebu a hyfforddiant i dynnu sylw at unrhyw wastraff problemus.
Tîm gwasanaethau amgylcheddol:
Mae timau sy'n gyfrifol am reoli'r cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu, gwagio a mynd â bagiau llawn i bwyntiau casglu yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau cydymffurfiaeth â'r gofynion. Gallant siarad ag aelodau staff eraill ac annog ymddygiad da.
Bydd gan borthorion, staff ystadau a staff glanhau rôl hollbwysig i sicrhau bod gwastraff yn cael ei ddidoli’n gywir a gofyn iddynt roi gwybod am faterion fel biniau sy’n gorlifo neu halogiad i’r person neu’r tîm perthnasol. Gallan nhw hefyd gynghori pob adran arall ar ba finiau sydd eu hangen, os oes gennych y capasiti gwastraff cywir neu os oes angen mwy arnoch.
Eich darparwyr rheoli cyfleusterau (os defnyddir nhw) i sicrhau bod gwasanaethau ailgylchu yn cael eu darparu.
Mae angen i staff tiroedd neu ystadau wybod am newidiadau i gasgliadau, a lleoliadau biniau y byddant yn eu defnyddio wrth gyflawni eu dyletswyddau h.y., casglu sbwriel neu wagio biniau sbwriel allanol.
Staff arlwyo:
Staff arlwyo mewn ceginau ar y safle i leihau gwastraff bwyd y gellir ei osgoi trwy reoli dognau a lleihau cynhyrchu gwastraff bwyd gormodol ac anochel.
Staff sy'n dosbarthu prydau bwyd i gleifion ac yn casglu hambyrddau prydau bwyd i sicrhau bod unrhyw fwyd neu becynwaith dros ben (potiau iogwrt ac ati) yn cael ei reoli'n gywir.
Gweler yr adran ar wastraff bwyd a hylendid am ragor o wybodaeth.
Gallwch ddefnyddio ein hadnoddau wrth ymgysylltu â'ch gweithwyr. (ybusnesoailgylchu.com)