Ymgysylltu a chyfathrebu
Ar gyfer safleoedd ysbytai mae grwpiau o bobl a allai fod angen gwahanol lefelau o gyfathrebu a manylion ynghylch beth yw'r newidiadau a sut maen nhw'n rhyngweithio â nhw.
Ehangu ymgysylltiad a negeseuon ar ailgylchu i staff, contractwyr, cleifion ac ymwelwyr drwy:
Labelu bob bin yn glir gyda'r eiconau Cymru yn Ailgylchu (wrapcymru.org.uk) a gydnabyddir yn genedlaethol fel bod pobl yn gwybod beth y gellir ac na ellir ei ailgylchu. Mae llawer o awdurdodau lleol yn defnyddio'r un eiconau y gallai eich staff, cleifion ac ymwelwyr fod yn gyfarwydd â nhw o'u hailgylchu gartref.
Gwneud yn siŵr bod yr holl wybodaeth a labeli biniau yn defnyddio lliwiau ac eiconograffeg gyson ar draws y safle cyfan er mwyn osgoi dryswch.
Ar gyfer safleoedd mawr, gallech ystyried darparu mapiau ar y safle i nodi pwyntiau ailgylchu yn ogystal â'r hyn y gellir ei ailgylchu ym mhob lleoliad.
Rhoi posteri o amgylch y safle ac ar eich mewnrwyd gyda negeseuon a gwybodaeth am ailgylchu.
Yn y canllaw hwn
Parhau i ddarllen
Ymgysylltu â chleifion ac ymwelwyr
Mae'n bwysig cael cyfathrebu clir a chyson er mwyn i unrhyw system ailgylchu fod yn llwyddiannus.
Ymgysylltu â staff
Mae'n bwysig ymgysylltu â'r holl staff ar y safle fel eu bod yn deall beth yw'r gofynion newydd a'r hyn sydd angen iddynt ei wneud.
Mwy o ganllawiau ar gyfer y sector ysbytai
- Pam mae angen ichi ailgylchu?
- Sut i ddeall eich gwastraff ac ailgylchu’n well
- Atal gwastraff yn y lle cyntaf
- Sut i roi gwasanaeth ailgylchu sy’n cydymffurfio ar waith
- Lleoliad biniau mewnol
- Lleoliad biniau sbwriel allanol
- Lleoliad biniau allanol a storfeydd
- Gwastraff bwyd a hylendid
- Adnoddau a gwybodaeth ychwanegol