Pam mae angen ichi ailgylchu?
Nod y gyfraith hon yw sicrhau bod gwastraff yn cael ei reoli fel bod deunyddiau gwerthfawr o ansawdd uchel yn cael eu casglu i'w hailgylchu, sydd â chanlyniadau amgylcheddol llawer gwell. Bydd ailgylchu o ansawdd uchel yn golygu llai o wastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi a llosgi, sy'n cael effaith negyddol ar yr amgylchedd.
Ceir arbedion carbon drwy ailgylchu'n gywir a defnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu yn hytrach na defnyddio nwyddau sy'n cynnwys deunyddiau crai sy'n arwain at echdynnu adnoddau anadnewyddadwy.
I ysbytai mae potensial i arbed symiau sylweddol o arian os caiff gwastraff ailgylchadwy ei reoli'n gywir. Mae gwastraff ailgylchadwy sy'n cael ei waredu'n anghywir, trwy ei roi mewn llif gwastraff sydd angen triniaeth arbenigol, fel gwastraff clinigol, yn costio llawer mwy i'w drin a'i reoli nag ailgylchu.
…a beth i’w ailgylchu
Mae'r gyfraith hon yn berthnasol i wastraff sy'n debyg i wastraff cartrefi a gynhyrchir gan ysbytai. Hynny yw, gwastraff sydd yr un fath neu'n debyg i'r math o wastraff a gynhyrchir fel arfer o weithgareddau bob dydd mewn cartrefi. Mae hyn yn cynnwys eitemau a ddygwyd i mewn gan staff, cleifion neu ymwelwyr.
Y deunyddiau y mae angen eu cyflwyno ar wahân i'w casglu o fis Ebrill 2026 ymlaen yw:
Papur a cherdyn;
Gwydr;
Metel, plastig, a chartonau (a deunyddiau pacio eraill tebyg, er enghraifft cwpanau coffi);
Bwyd – pob safle sy'n cynhyrchu 5kg neu fwy o wastraff bwyd am saith diwrnod yn olynol;
Cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach (sWEEE) a
Tecstilau heb eu gwerthu.
Mae rhestr lawn o ddeunyddiau ailgylchadwy y mae'n rhaid eu gwahanu ar gyfer ailgylchu yn Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu: Cod Ymarfer.
Mae'r terfyn pwysau gwastraff bwyd o 5kg yn berthnasol i unrhyw gyfnod o saith diwrnod. Mae safleoedd ysbytai yn debygol o gynhyrchu dros y trothwy 5kg ac felly bydd angen gwasanaeth casglu gwastraff bwyd ar wahân arnynt.
O fis Ebrill 2026 ymlaen bydd angen cyflwyno offer trydanol ac electronig gwastraff bach (sWEEE) ar wahân a'i anfon i'w ailgylchu. Diffinnir sWEEE fel unrhyw eitem drydanol sy'n llai na 50 centimetr ar ei hymyl hiraf.
Mae 'eitem heb ei gwerthu' yn cyfeirio at eitem nas defnyddiwyd sydd heb ei werthu i ddefnyddiwr neu sydd wedi cael ei gwerthu i a'i dychwelyd. Mae'n annhebygol y bydd gan ysbytai unrhyw decstilau heb eu gwerthu i'w gwaredu. Fodd bynnag, ystyrir ei bod yn arfer da ailgylchu unrhyw decstilau gwastraff gyda chontractwr priodol ar ôl iddynt gael eu trin h.y. tynnu unrhyw frandio oddi ar hen wisgoedd staff.
Mwy o ganllawiau ar gyfer y sector ysbytai
- Sut i ddeall eich gwastraff ac ailgylchu’n well
- Atal gwastraff yn y lle cyntaf
- Sut i roi gwasanaeth ailgylchu sy’n cydymffurfio ar waith
- Lleoliad biniau mewnol
- Lleoliad biniau sbwriel allanol
- Lleoliad biniau allanol a storfeydd
- Ymgysylltu a chyfathrebu
- Gwastraff bwyd a hylendid
- Adnoddau a gwybodaeth ychwanegol