Lleoliad biniau mewnol
Y gofyniad allweddol yn y gyfraith yw bod gwastraff tebyg i wastraff cartrefi’n cael ei gyflwyno i'ch casglwr gwastraff ar wahân i'w gasglu. Nid oes ffordd ragnodedig o sut i gasglu'r deunyddiau cyn eu cyflwyno ar wahân i'w casglu. Fodd bynnag, mae'n arfer gorau cydnabyddedig darparu cynwysyddion / biniau ar wahân ar gyfer pob ffrwd gwastraff ailgylchadwy a gynhyrchir gan weithle oherwydd bydd yn ei gwneud hi'n haws cydymffurfio. Dan rai amgylchiadau, ni fydd hyn yn ymarferol, a gallech ystyried ail ddidoli deunyddiau cyn iddynt gael eu cyflwyno i'w casglu, er enghraifft gellid casglu deunyddiau ailgylchadwy sych fel plastig a chardbord gyda'i gilydd mewn ardal glinigol ac yna eu gwahanu wrth eu cyflwyno i'w casglu.
Mae gan ysbytai lawer o adeiladau ac adrannau gwahanol sy'n cynhyrchu gwahanol feintiau a mathau o wastraff.
Bydd yn rhaid i bob lleoliad ystyried yr ateb gorau ar gyfer eu hamgylchiadau. Mae'r opsiynau'n cynnwys:
Gwirio’r nifer a mathau’r biniau – a ydyn nhw’n briodol ar gyfer y gwastraff sy’n cael ei gynhyrchu yn y lleoliad hwnnw?
Ystyried pa ddeunyddiau sy'n cael eu cynhyrchu a gwneud yn siŵr eich bod yn darparu digon o gapasiti ac amserlenni gwagio h.y. mae'n annhebygol y bydd angen biniau ailgylchu gwydr mewn mannau cleifion
Darparu setiau o finiau ailgylchu gyda’i gilydd, neu stondinau ailgylchu, mewn lleoliadau cymunedol fel coridorau, ger lifftiau, ceginau staff ac ati i staff, cleifion ac ymwelwyr eu defnyddio. Ystyriwch ddiogelwch rhag tân a llwybrau critigol bob amser.
Cadw unrhyw finiau gwastraff clinigol oddi wrth finiau ailgylchu neu wastraff cyffredinol i leihau halogiad.
Mae gorsafoedd ailgylchu gyda bwrdd cefn neu arwyddion sy'n dangos beth i'w roi ym mhob bin yn helpu. Mae hefyd yn sicrhau bod biniau'n aros gyda'i gilydd.
Drwy gadw setiau o finiau gyda'i gilydd ac osgoi symud biniau unigol oddi wrth ei gilydd, bydd modd osgoi halogiad a defnyddio'r biniau anghywir.
Cofio cynnwys bin gwastraff cyffredinol gyda chynwysyddion ailgylchu bob amser i gyfyngu ar halogiad.
Osgoi defnyddio biniau gwastraff cyffredinol sengl, unigol. Lle gosodir biniau gwastraff cyffredinol ar eu pen eu hunain, cânt eu defnyddio'n aml ar gyfer deunyddiau ailgylchadwy hefyd. Mae sicrhau eich bod yn osgoi'r rhain yn golygu na fydd deunyddiau ailgylchadwy gwerthfawr yn mynd i'r ffrwd gwastraff cyffredinol.
Sicrhau bod biniau ac arwyddion yn gyson ar draws y safle i helpu pobl i ddeall pa fin i'w ddefnyddio
Ar arwyddion, tynnu sylw at ddeunyddiau sy'n halogion hysbys, e.e. cwpanau coffi, a sicrhau eu bod wedi'u cynnwys mewn arwyddion ar y bin cywir
Lle mae lle cyfyngedig, ystyried:
cynhwysydd sy'n arbed lle fel biniau aml-adran cryno neu fin ailgylchu sy’n pentyrru
datrysiad dau gynhwysydd – un ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu ac un ar gyfer gwastraff ailgylchadwy glân a gwag – efallai y bydd angen didoli hyn ymhellach yn dibynnu ar yr amrywiaeth o wastraff ailgylchadwy sy'n cael ei gasglu (fel y gallech ei wneud gyda'r gwastraff sy'n cael ei roi yn y bin yn eich ystafell wely neu ystafell ymolchi gartref.)
Lle mae pryderon y gallai biniau sydd wedi'u gosod mewn lleoliadau gael eu defnyddio'n amhriodol, darparu cynwysyddion mewn lleoliadau sydd ond yn hygyrch i staff (gyda gwastraff a gynhyrchir gan gleifion fel pecynwaith yn cael ei gasglu a'i ddidoli drwy gydol y dydd yn lle hynny).
Mwy o ganllawiau ar gyfer y sector ysbytai
- Pam mae angen ichi ailgylchu?
- Sut i ddeall eich gwastraff ac ailgylchu’n well
- Atal gwastraff yn y lle cyntaf
- Sut i roi gwasanaeth ailgylchu sy’n cydymffurfio ar waith
- Lleoliad biniau sbwriel allanol
- Lleoliad biniau allanol a storfeydd
- Ymgysylltu a chyfathrebu
- Gwastraff bwyd a hylendid
- Adnoddau a gwybodaeth ychwanegol