Canllawiau ar gyfer
Ysbytai

Atal gwastraff yn y lle cyntaf

Dyma ychydig o awgrymiadau i leihau gwastraff sy’n debyg i wastraff cartrefi:

  • Gweithio gyda'ch timau caffael i adolygu a lleihau pecynwaith cyflenwadau anfeddygol

  • Annog manwerthwyr ar y safle ac mewn ffreuturau ysbytai i gyfrannu stoc dros ben neu heb ei werthu – er enghraifft, cael oergell i weithwyr ar gyfer cynhyrchion y gallant eu bwyta neu fynd â nhw adref am ddim. Mae canllaw ar gael ar ‘Sut mae’n rhaid i fusnesau waredu bwyd a chyn fwydydd’ – (www.gov.uk).

  • Wrth weini bwyd i gleifion, gwneud yn siŵr bod meintiau'r dognau'n addas i gleifion er mwyn osgoi gwastraff bwyd. Gall caniatáu i gleifion archebu prydau bwyd ymlaen llaw hefyd leihau gwastraff, gan sicrhau eu bod yn gallu dewis bwyd y byddant yn ei fwyta.

  • Prynu nwyddau y gellir eu hail-lenwi neu eu hailddefnyddio fel cwpanau, llestri a chyllyll a ffyrc amldro.

  • Bydd darparu ffynhonnau dŵr i staff eu defnyddio yn osgoi defnyddio poteli plastig untro.

  • Mynd yn ddi-bapur – hyrwyddo’r defnydd o lwyfannau ar-lein lle bo modd, annog swyddfeydd di-bapur

  • Monitro'r gwastraff a gynhyrchir a nodi unrhyw ffrydiau y gellid eu lleihau, e.e. gwastraff deunyddiau pacio, deunyddiau ailgylchadwy amgen.

  • Ymchwilio i unrhyw dreialon sy’n cael eu cynnal mewn ysbytai eraill, e.e. newid i ffedogau y gellir eu hailddefnyddio yn hytrach na ffedogau untro.

  • Ymchwilio i opsiynau ar gyfer ailddefnyddio ac adnewyddu dyfeisiau trydanol a dyfeisiau meddygol eraill yn hytrach nag ailgylchu neu waredu, e.e. cymhorthion cerdded.

Efallai y bydd rhai costau i wneud y newidiadau hyn i ddechrau ond gallai lleihau eich gwastraff leihau eich costau gwaredu gwastraff yn y tymor hir.

Dewis sector arall