Sut i roi gwasanaeth ailgylchu sy’n cydymffurfio ar waith
Pan fyddwch chi'n trefnu gwasanaeth ailgylchu newydd, mae'n werth ystyried y canlynol:
Mae'r rhan fwyaf o gasglwyr gwastraff yn cynnig cynwysyddion o wahanol feintiau, gan gynnwys sachau ar gyfer rhai mathau o wastraff. Gallai hyn fod yn ddefnyddiol mewn lleoliadau sy'n cynhyrchu meintiau llai o wastraff. Unwaith y byddwch wedi dechrau ailgylchu efallai y byddwch chi’n gallu lleihau maint a/neu nifer eich biniau gwastraff cyffredinol;
Siarad â'ch casglwr gwastraff presennol am eich anghenion ailgylchu newydd neu ychwanegol. Bydd angen iddyn nhw fod yn ymwybodol o'r gyfraith a sicrhau bod y gwasanaethau maen nhw'n eu cynnig yn cydymffurfio ac yn canolbwyntio ar yr ardaloedd sy'n cynhyrchu'r symiau uwch o wastraff, h.y. ardaloedd gwasanaeth bwyd, ardaloedd anghlinigol ac ati. Fodd bynnag, cofiwch, fel y deiliad, eich bod chi'n gyfrifol am yr holl wastraff sy'n cael ei gasglu o'ch safle.
Sicrhau dyfynbrisiau gan amrywiaeth o gasglwyr i gael y pris gorau a'r gwasanaeth mwyaf addas i chi. Gallwch gael mwy nag un darparwr gwastraff yn casglu o'r safle.
Pa bynnag wasanaeth y cytunir arno, eich cyfrifoldeb chi fel cynhyrchydd gwastraff yw sicrhau eich bod yn bodloni eich holl rwymedigaethau cyfreithiol o dan y gyfraith Dyletswydd Gofal (www.cyfoethnaturiol.cymru) a rhaid i chi gynhyrchu nodyn trosglwyddo gwastraff.
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd eich casglwr gwastraff yn cynhyrchu un i chi. Dylech wirio'r nodyn trosglwyddo gwastraff yn ofalus i sicrhau bod y disgrifiad o'r gwastraff sy'n cael ei gasglu yn gywir. Ni ddylai dim o'ch ailgylchu gael ei anfon gan eich casglwr gwastraff i safle tirlenwi nac i losgi. Gallech ystyried gofyn i’ch casglwr gwastraff am dystiolaeth reolaidd am ble caiff eich gwastraff ac ailgylchu ei gludo.
Am ragor o wybodaeth am waharddiadau tirlenwi a llosgi gweler Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu: Cod Ymarfer Cymru. Sylwer bod gwaharddiad ar anfon unrhyw bren i'w losgi a'i dirlenwi.