Canllaw ailgylchu yn y gweithle

Ysbytai

Help i’ch busnes ar bob cam o’r siwrne.

Canllawiau ar gyfer y sector ysbytai

Newid sector

Dylid darllen y canllaw hwn ar y cyd â Casglu Deunyddiau Gwastraff ar Wahân ar gyfer Ailgylchu: Cod Ymarfer Cymru. Mae’r canllaw hwn yn darparu cyngor ategol ar gyfer sectorau unigol ac ni ddylid ei ddarllen fel canllaw ar ei ben ei hun.

Mae’n berthnasol i holl ysbytai’r GIG ac Ysbytai Preifat yng Nghymru o Ebrill 2026.

Trosolwg o’r cynnwys

Pam mae angen ichi ailgylchu?

O 6 Ebrill 2026, rhaid i bob ysbyty gyflwyno’r deunyddiau canlynol ar wahân i gael eu casglu i’w hailgylchu.

Sut i ddeall eich gwastraff ac ailgylchu’n well

Er mwyn deall yr ardaloedd sy'n cynhyrchu'r rhan fwyaf o'r gwastraff penodedig, mae'n ddefnyddiol ymgymryd ag archwiliadau gwastraff.

Atal gwastraff yn y lle cyntaf

Bydd lleihau neu atal faint o wastraff sy’n cael ei gynhyrchu’n eich helpu i arbed arian a gallai leihau maint neu nifer y biniau y bydd eu hangen arnoch. Po leiaf o wastraff a gynhyrchwch, po leiaf y codir tâl arnoch am gasglu.

Sut i roi gwasanaeth ailgylchu sy’n cydymffurfio ar waith

Rydym yn argymell eich bod yn darllen Casglu Deunyddiau Gwastraff i'w Ailgylchu Ar Wahân: (Cod Ymarfer) i gael dealltwriaeth lawn o’r gofynion a'ch rhwymedigaethau o dan y gyfraith.

Mae hyn yn cynnwys rhestrau yn yr Atodiadau o'r holl fathau penodol o bethau y mae’n rhaid ei ailgylchu.

Lleoliad biniau mewnol

Mae gan ysbytai lawer o adeiladau ac adrannau gwahanol sy'n cynhyrchu gwahanol feintiau a mathau o wastraff. Bydd yn rhaid i bob lleoliad ystyried yr ateb gorau ar gyfer eu hamgylchiadau.

Lleoliad biniau sbwriel allanol

Ar gyfer unrhyw fannau agored o dir o fewn safle'r ysbyty, argymhellir darparu biniau sbwriel ar wahân ar gyfer eitemau ailgylchadwy a gaiff eu cynhyrchu ar y safle mewn unrhyw leoliadau lle mae biniau sbwriel wedi'u lleoli ar hyn o bryd.

Lleoliad biniau allanol a storfeydd

Mae'n bwysig ystyried ble a sut y byddwch chi'n storio'ch gwastraff a'ch ailgylchu cyn iddo gael ei gasglu er mwyn sicrhau eich bod chi'n cydymffurfio â'r ddyletswydd gofal gwastraff.

Ymgysylltu a chyfathrebu

Mae'n bwysig cael cyfathrebu clir a chyson er mwyn i unrhyw system ailgylchu fod yn llwyddiannus, h.y. bod y rhai sy'n defnyddio'r biniau a'r rhai sy'n rheoli'r gwastraff yn rhoi'r eitemau cywir yn y biniau cywir.

Gwastraff bwyd a hylendid

Mae ysbytai sydd â ffreuturau a cheginau yn anochel yn cynhyrchu gwastraff bwyd mewn symiau mwy na'r safleoedd hynny nad ydynt yn paratoi ac yn coginio bwyd ar y safle.

Adnoddau a gwybodaeth ychwanegol

Gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol pellach ar gyfer ysbytai.

Rydych yn edrych ar ganllawiau ar gyfer y sector ysbytai ar hyn o bryd

Dewis sector arall