Adnoddau a gwybodaeth ychwanegol
Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am reoleiddio'r gofynion gwahanu a'r gwaharddiadau ar dirlenwi. Mae wedi cynhyrchu gwybodaeth am eu dulliau o reoleiddio’r Gyfraith Ailgylchu yn y Gweithle.
Mae gwaharddiad ar Blastigion Untro gan gynnwys cyllyll a ffyrc plastig, cymysgwyr diodydd, cynhyrchion polystyren a gwellt yfed.
Mae Pecynwaith plastig yn y diwydiant lletygarwch a gwasanaeth bwyd yn cynnig llawer o heriau a chyfleoedd, mae gan Gytundeb Plastigion y Deyrnas Unedig bedwar targed sy'n gweithio tuag at fyd lle mae plastig yn cael ei werthfawrogi. Mae yna gamau y gallwch eu cymryd i gyflawni'r targedau hyn. (www.wrap.org.uk)
Mae’r Pecyn cymorth lleihau gwastraff bwyd yn darparu camau gweithredu i'ch helpu i leihau gwastraff bwyd. I weld beth mae eraill wedi'i wneud ewch i Astudiaethau achos lletygarwch a gwasanaeth bwyd ar wefan WRAP. Os ydych chi'n chwilio am syniadau ar beth i'w wneud gyda bwyd dros ben, gall y Surplus food hub helpu, sydd hefyd ar gael ar wefan WRAP.
Atal gwastraff yn y sector gofal iechyd | WRAP
Canllaw cam wrth gam i alluogi arlwywyr ysbytai i leihau gwastraff bwyd a deunydd pacio cysylltiedig ac ailgylchu mwy. Cynhyrchwyd gan WRAP a'i ddatblygu gyda’r Hospital Caterers Association (HCA).
Mae canllawiau'n cynnwys:
Mesur gwastraff bwyd
Cyfleoedd ar y ward
Cyfleoedd yn y gegin
Gwastraff bwyd yn y GIG | WRAP
Nod y canllaw hwn yw helpu cwmnïau rheoli gwastraff i ddeall y ffordd orau o fodloni gofynion gwasanaeth casglu gwastraff bwyd ysbytai'r GIG.
Mae nifer o astudiaethau achos wedi'u cynnwys ar y dudalen hon
Gall sefydliadau'r sector cyhoeddus ddefnyddio cytundebau contract fframwaith a gaffaelir gan sefydliadau prynu proffesiynol fel:
Gwerthwch i Gymru (gwerthwchigymru.llyw.cymru) i gaffael nwyddau a gwasanaethau, gan arbed yr amser a'r ymdrech i chi, ac, efallai arbed arian hefyd.
Mae’r Eastern Shires Purchasing Organisation (ESPO) yn darparu fframwaith ar gyfer caffael gwasanaethau casglu ar gyfer gwastraff, ailgylchu sych a gwastraff bwyd drwy Fframwaith 379_21
Mae’r YPO (Yorkshire Purchasing Organisation www.ypo.co.uk) yn darparu amrywiaeth o fframweithiau fel rhan o’i adran Cyfleusterau a Rheoli Gwastraff ar gyfer caffael nwyddau a gwasanaethau megis bagiau leinio compostadwy, cynwysyddion gwastraff ac ailgylchu dan do ac awyr agored, biniau olwynion a gwasanaethau ailgylchu.
Mwy o ganllawiau ar gyfer y sector ysbytai
- Pam mae angen ichi ailgylchu?
- Sut i ddeall eich gwastraff ac ailgylchu’n well
- Atal gwastraff yn y lle cyntaf
- Sut i roi gwasanaeth ailgylchu sy’n cydymffurfio ar waith
- Lleoliad biniau mewnol
- Lleoliad biniau sbwriel allanol
- Lleoliad biniau allanol a storfeydd
- Ymgysylltu a chyfathrebu
- Gwastraff bwyd a hylendid