Sut i ddeall eich gwastraff ac ailgylchu’n well
Mae'n bwysig bod yr holl ddeunyddiau gwastraff yn cael eu gwaredu yn y ffrwd wastraff cywir.
Mae ysbytai yn cynhyrchu llawer o fathau o wastraff gan gynnwys gwastraff clinigol, budr, a pheryglus, y mae angen i wasanaeth casglu gwastraff arbenigol ei reoli, a dylai hyn fod ar waith eisoes. Nid yw'r mathau hyn o wastraff yn disgyn o fewn cwmpas y gyfraith ailgylchu yn y gweithle.
Mae ysbytai hefyd yn cynhyrchu mathau eraill o wastraff, gan gynnwys gwastraff tebyg i wastraff cartrefi ac mae'n bwysig bod yr holl ddeunyddiau gwastraff yn cael eu gwaredu yn y ffordd gywir.
Bydd unrhyw eitem o wastraff ailgylchadwy a roddir yn y ffrwd wastraff clinigol yn costio mwy i'w brosesu a bydd yn cael ei losgi yn hytrach na'i ailgylchu'n gynhyrchion newydd. Gallai unrhyw wastraff peryglus neu glinigol a roddir yn y bin ailgylchu achosi problemau iechyd a diogelwch i staff sy'n trin y gwastraff a staff casglu allanol. Gall hefyd halogi'r deunyddiau ailgylchadwy gwerthfawr y byddai'n rhaid eu gwaredu mewn ffordd ddrytach wedyn.
Er mwyn deall yr ardaloedd sy'n cynhyrchu'r rhan fwyaf o'r gwastraff penodedig, mae'n ddefnyddiol ymgymryd ag archwiliadau gwastraff. Drwy gynnal archwiliadau o'ch gwastraff, meintiau a mathau'r biniau sy'n cael eu defnyddio, byddwch yn gallu deall y ddarpariaeth wastraff gyfredol ar draws yr ysbyty. Gallai hefyd ddangos a ellid gwneud gwelliannau i'ch darpariaeth a lleoliad biniau presennol, gwasanaethau gwastraff, a helpu gyda'r gofynion newydd o dan gyfraith ailgylchu yn y gweithle.
Byddai archwiliad neu adolygiad gwastraff yn nodi pa ardaloedd sy'n cynhyrchu meintiau uchel o ddeunyddiau penodol. Bydd gwahanol adrannau'n cynhyrchu gwahanol fathau o wastraff mewn meintiau amrywiol, a bydd arnynt angen casgliadau ar wahân. Bydd darparu'r biniau a'r cynwysyddion cywir ar gyfer deunyddiau wedi'u gwahanu yn helpu i leihau lefelau halogiad a chostau.
Mae'r tabl hwn yn dangos ble mae’r gwastraff perthnasol yn debygol o gael ei gynhyrchu ar draws y safle.

Mae'n ddefnyddiol gweithio gyda'r staff sy'n rheoli eich gwastraff, gan gynnwys casgliadau, i ddeall pa wastraff sy'n cael ei greu, ac i amlygu unrhyw fesurau lleihau gwastraff neu ailgylchu sydd eisoes ar waith. A yw'r biniau gofynnol yn y lleoliadau hyn? Gweler yr adran 'biniau mewnol' am ragor o wybodaeth.