Canllawiau ar gyfer
Ysbytai

Ymgysylltu a chyfathrebu

Ar gyfer safleoedd ysbytai mae grwpiau o bobl a allai fod angen gwahanol lefelau o gyfathrebu a manylion ynghylch beth yw'r newidiadau a sut maen nhw'n rhyngweithio â nhw.

Ehangu ymgysylltiad a negeseuon ar ailgylchu i staff, contractwyr, cleifion ac ymwelwyr drwy:

  • Labelu bob bin yn glir gyda'r eiconau Cymru yn Ailgylchu (wrapcymru.org.uk) a gydnabyddir yn genedlaethol fel bod pobl yn gwybod beth y gellir ac na ellir ei ailgylchu. Mae llawer o awdurdodau lleol yn defnyddio'r un eiconau y gallai eich staff, cleifion ac ymwelwyr fod yn gyfarwydd â nhw o'u hailgylchu gartref.

  • Gwneud yn siŵr bod yr holl wybodaeth a labeli biniau yn defnyddio lliwiau ac eiconograffeg gyson ar draws y safle cyfan er mwyn osgoi dryswch.

  • Ar gyfer safleoedd mawr, gallech ystyried darparu mapiau ar y safle i nodi pwyntiau ailgylchu yn ogystal â'r hyn y gellir ei ailgylchu ym mhob lleoliad.

  • Rhoi posteri o amgylch y safle ac ar eich mewnrwyd gyda negeseuon a gwybodaeth am ailgylchu.

Parhau i ddarllen

  • Ymgysylltu â chleifion ac ymwelwyr

    Mae'n bwysig cael cyfathrebu clir a chyson er mwyn i unrhyw system ailgylchu fod yn llwyddiannus.

  • Ymgysylltu â staff

    Mae'n bwysig ymgysylltu â'r holl staff ar y safle fel eu bod yn deall beth yw'r gofynion newydd a'r hyn sydd angen iddynt ei wneud.

Dewis sector arall