Gwastraff bwyd a hylendid
Ers 6 Ebrill 2024, mae gwaharddiad wedi bod ar bob gweithle, gan gynnwys ysbytai, rhag gwaredu gwastraff bwyd i garthffosydd gan gynnwys trwy ddefnyddio peiriannau cnoi, peiriannau dad-ddyfrio neu dechnoleg gwaredu gwastraff bwyd debyg arall.
Mae canllawiau ar wastraff bwyd i'ch helpu i gael gwared ar wastraff yn briodol er mwyn bodloni'r gofynion gwastraff presennol. Cyfraith Dyletswydd Gofal gwastraff (www.cyfoethnaturiol.cymru)
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd hefyd yn darparu canllawiau i safleoedd ar sut i drin eich gwastraff bwyd yn ddiogel:
Storio gwastraff bwyd mewn cynwysyddion y gellir eu selio sydd yn;
Solet, ac yn ddigon cryf i ddal gwastraff bwyd;
Mewn cyflwr da - h.y., heb doriadau neu holltau a allai alluogi plâu i gael mynediad at wastraff neu achosi gollyngiadau a
Hawdd ei lanhau a’i ddiheintio;
Tynnu gwastraff bwyd a sbwriel arall o ardaloedd cynted â phosibl a
Cael digon o gyfleusterau storio gwastraff i storio a gwaredu gwastraff bwyd a sbwriel arall a’u cadw’n lân.
Sicrhewch fod unrhyw newidiadau a wnewch yn cael eu hymgorffori yn eich Systemau Rheoli Diogelwch Bwyd.
Os yw eich casglwr gwastraff bwyd yn caniatáu ichi ddefnyddio bagiau leinio compostadwy, gwnewch yn siŵr bod eich bagiau leinio’n cydymffurfio â BS EN 13432. Mae hyn yn golygu bod yr holl wastraff bwyd yn cael ei anfon i'w brosesu'n fasnachol er mwyn bodloni'r safonau cywir.
O dan y gyfraith, rhaid casglu gwastraff bwyd ar wahân i wastraff arall. Yna rhaid ei anfon i'w ailgylchu (trwy dreuliad anaerobig neu gompostio).
Ni ddylid ei waredu i lawr y draen i'r garthffos er mwyn osgoi gorlwytho'r system garthffosiaeth, gan achosi blocio a cholli cyfle i adennill ynni a maetholion gwerthfawr. Bydd gwastraff bwyd a gesglir i'w ailgylchu yn cael ei anfon i gyfleusterau treulio anaerobig i gynhyrchu ynni adnewyddadwy a chynhyrchu cynhyrchion treuliad a gwrtaith.
Mae'r diffiniad o wastraff bwyd y mae'n rhaid ei wahanu ar gyfer casglu ac ailgylchu, ac na ddylid ei waredu i'r garthffos, wedi'i gynnwys ym mharagraff 4.13 o'r Cod Ymarfer (www.llyw.cymru/ailgylchuynygweithle).
Nid yw diod wedi'i gynnwys yn y diffiniad ac felly gellir ei roi i lawr y garthffos. Yn ogystal, nid yw'r diffiniad o wastraff bwyd yn cynnwys gwastraff bwyd sy'n cael ei gymysgu â dŵr wedi'i ddefnyddio i lanhau unrhyw le neu offer a ddefnyddir wrth brosesu neu baratoi bwyd neu ddiod. Mae hyn yn golygu gwastraff bwyd, gan gynnwys gwastraff bwyd hylifol fel cawl, sy'n cael ei olchi i lawr y garthffos fel rhan o'r broses o lanhau bwyd dros ben o bowlenni, cwpanau neu sosbenni hefyd wedi’i eithrio.
Fodd bynnag, os ydych chi'n cynhyrchu gwastraff bwyd hylifol yn rheolaidd i'w waredu y tu allan i'r eithriad proses lanhau a grybwyllir uchod, yna bydd angen i chi wahanu hwn i gael ei gasglu a'i gludo i ailgylchu. Dylech siarad â'ch casglwr gwastraff bwyd ynghylch a allant ddarparu ar gyfer eich gwastraff bwyd hylifol yn eu gwasanaeth casglu gwastraff bwyd rheolaidd. Os na allant, efallai y bydd gofyn i chi drefnu gwasanaeth casglu bwyd hylif arbenigol.
Yn ogystal, os ydych chi'n cynhyrchu symiau mawr o wastraff bwyd yn rheolaidd, gan gynnwys cawliau neu fwyd hylifol arall, dylech chi adolygu'r Pecyn cymorth lleihau gwastraff bwyd neu'r adnodd Guardians of Grub i weld sut i leihau gwastraff bwyd yn unol â'ch cyfrifoldebau o dan yr hierarchaeth gwastraff bwyd (gweler adran 2 o'r Cod Ymarfer am ragor o wybodaeth).
Cyfeiriwch at ein Canllaw i'r sector lletygarwch a gwasanaeth bwyd a fydd yn darparu rhagor o wybodaeth am gasglu gwastraff bwyd i'w ailgylchu.
Hospital Caterers Association – yn darparu amrywiaeth o adnoddau ar gyfer arlwywyr ysbytai gan gynnwys cynaliadwyedd a rheoli gwastraff bwyd.
Mwy o ganllawiau ar gyfer y sector ysbytai
- Pam mae angen ichi ailgylchu?
- Sut i ddeall eich gwastraff ac ailgylchu’n well
- Atal gwastraff yn y lle cyntaf
- Sut i roi gwasanaeth ailgylchu sy’n cydymffurfio ar waith
- Lleoliad biniau mewnol
- Lleoliad biniau sbwriel allanol
- Lleoliad biniau allanol a storfeydd
- Ymgysylltu a chyfathrebu
- Adnoddau a gwybodaeth ychwanegol